Cwestiynau Cyffredin
Mae’r Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn gynhadledd flynyddol a chyfres o ddigwyddiadau dysgu ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Gwasanaeth Cyhoeddus ehangach.
Bydd y Gwasanaeth Sifil yn Fyw Caerdydd yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Mercher, 25 Tachwedd 2026 I gael rhagor o wybodaeth am y lleoliad, ewch i 'r dudalen hon.
Mae'r digwyddiadau sioe deithiol rhanbarthol yn llai o faint ac wedi'u rhannu'n docynnau y bore a’r prynhawn er mwyn sicrhau y gall rhagor o weision sifil fod yn bresennol. Dyma'r amseroedd mynediad ar gyfer tocynnau cynrychiolwyr y Gwasanaeth Sifil yn Fyw Caerdydd:
Tocyn bore: 08:00 - 13:00
Tocyn prynhawn: 12:30 - 17:00
Tocyn Diwrnod Cyfan: 08:00 - 17:00
Bydd cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu hanfon at bob cynrychiolydd bythefnos cyn y digwyddiad, yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 9 Tachwedd. Bydd rhagor o ddiweddariadau a gwybodaeth bwysig yn cael eu rhannu yn nes at y digwyddiad.
Gwiriwch eich mewnflychau sbam a sothach. Os nad ydych wedi cael e-bost o hyd, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i civilservicelive@totalevents.uk a bydd aelod o'r tîm yn eich helpu.
Oes, bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod dilys a gyhoeddwyd gan y llywodraeth, gan y bydd gofyn i chi ei gyflwyno wrth gofrestru er mwyn cael mynediad i'r digwyddiad.
Gallwch gael mynediad at eich cofrestriad drwy'r ddolen yn eich e-bost cadarnhau. Oddi yno, byddwch yn gallu diweddaru eich manylion cyswllt.
Nac ydy, dim ond gweision sifil ledled y DU a all fynd i’r Gwasanaeth Sifil yn Fyw.
Ni fydd bathodynnau'n cael eu rhoi yn y Gwasanaeth Sifil yn Fyw Caerdydd 2026.
Ar ôl cyrraedd, dangoswch eich e-bost cadarnhau, naill ai wedi'i argraffu neu ar eich dyfais symudol, ynghyd â'ch cerdyn adnabod y Gwasanaeth Sifil neu fath arall o brawf adnabod swyddogol â llun os gofynnir amdano. Bydd ein tîm cofrestru yn gwirio eich cofrestriad cyn rhoi band arddwrn i chi, y mae'n rhaid ei wisgo drwy gydol y digwyddiad.
Byddwch. Bydd gan y rhan fwyaf o sesiynau offeryn ymgysylltu â'r gynulleidfa a fydd yn eich galluogi i gyflwyno cwestiynau, pleidleisio o blaid cwestiynau pobl eraill yr hoffech glywed atebion iddynt, ateb arolygon barn a sgwrsio am y pwnc. Bydd cyfraniadau bob amser yn ymddangos o dan eich enw.
Os nad oes gennych ffôn clyfar, bydd gennym feicroffon crwydrol yn yr ystafell sesiwn er mwyn galluogi aelodau'r gynulleidfa i ofyn cwestiynau.
Byddwch yn gallu cael mynediad at Slido drwy sganio cod QR a ddangosir yn y digwyddiad neu drwy fynd i www.slido.com a nodi'r cod #CSLive.
Bydd mannau arlwyo o amgylch y lleoliad lle gall cynrychiolwyr brynu lluniaeth a byrbrydau. Gellir darparu ar gyfer y rhan fwyaf o ofynion deietegol, ond efallai y bydd eithriadau ar gyfer pobl ag alergeddau prin neu ddifrifol. Hefyd, efallai y bydd amrywiaeth o fwyd a diod ar gael i'w prynu yn agos at y lleoliad. Bydd dŵr yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim.
Ydy. Rydym yn sicrhau bod pob lleoliad a ddefnyddir ar gyfer y Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol perthnasol.
I weld yr Adroddiad Cynhwysiant a Hygyrchedd ar gyfer y digwyddiad hwn yn Gymraeg, cliciwch yma.
I weld yr Adroddiad Cynhwysiant a Hygyrchedd ar gyfer y digwyddiad hwn yn Gymraeg, cliciwch yma.
Bydd eich data'n cael ei brosesu a'i gadw yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd.
Mae cofrestru ar gyfer Caerdydd yn cau awr cyn diwedd y digwyddiad.
Byddwch hefyd yn gallu cofrestru ar y diwrnod. Cofiwch ddod â'ch prawf adnabod a gyhoeddwyd gan y llywodraeth.
Eich gwisg swyddfa arferol.
Bob blwyddyn rydym yn adolygu lleoliadau’r Gwasanaeth Sifil yn Fyw er mwyn sicrhau y gallwn gyrraedd a hyfforddi cynifer o weision sifil â phosibl. Mae hyn hefyd er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y digwyddiadau mewn lleoliadau cyfleus a chanolog i leihau teithio corfforaethol gymaint â phosibl. Mae'n hawdd cyrraedd pob un o'r lleoliadau a ddewiswyd ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn lleihau nifer y cynrychiolwyr sy'n teithio i'r digwyddiadau mewn ceir neu drwy ddefnyddio trafnidiaeth bersonol.
Mae gan y lleoliadau a ddewiswyd bolisïau cynaliadwyedd ar waith, gan gynnwys cyfleusterau ailgylchu ar y safle, dewisiadau eraill yn lle plastig untro, defnyddio cynnyrch lleol ar gyfer y bwyd a gynigir a sicrhau bod dewisiadau amgen sy'n seiliedig ar blanhigion ar y fwydlen fel rhan o'r cynnig arferol.
Rydym yn deall y bydd mynychu’r Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn gofyn am fuddsoddiad o amser, ac rydym yn annog pob aelod o staff yn gryf i ddefnyddio'r rhaglen y gallwch ei llunio eich hun er mwyn sicrhau bod eu diwrnod wedi'i gynllunio'n drylwyr a'u bod yn manteisio i'r eithaf ar y digwyddiadau sydd ar gael. Mae pob sesiwn wedi'i llunio'n ofalus i ddarparu negeseuon allweddol a chamau gweithredu y gall mynychwyr eu rhannu â'u cydweithwyr wrth ddychwelyd i'r gweithle.
Mae'r lleoliadau wedi'u dewis fel ei bod yn hawdd ac yn gosteffeithiol eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dylid gwneud cais am yr holl gostau teithio o'ch cyllideb leol ac maent yn amodol ar gymeradwyaeth eich rheolwr llinell.