Croeso i’r Gwasanaeth Sifil yn Fyw Caerdydd 2026

Ymunwch â ni yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mercher, 25 Tachwedd 2026

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn Fyw yn dod â miloedd o weision sifil ynghyd o bob rhan o adrannau, proffesiynau a rhanbarthau, gan gynnig llwyfan unigryw i gysylltu â chydweithwyr, cyfnewid syniadau ac ymgysylltu â chynnwys sy’n ysgogi’r meddwl a gyflwynir gan siaradwyr ysbrydoledig o bob rhan o’r gwasanaeth sifil a thu hwnt.

Yn bwysicaf oll, mae’r digwyddiad yn gyfle i ddathlu ymroddiad, arloesedd ac effaith gweision sifil ledled y DU ac ar draws y byd, gan gydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus rhagorol bob dydd.


Yng Nghaerdydd, bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • tocynnau cynrychiolwyr diwrnod llawn a hanner diwrnod i weision sifil, gydag opsiynau bore a phrynhawn
  • Tua 36 sesiwn ddiddorol yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd
  • 30 o arddangoswyr bwrdd o bob rhan o’r sector cyhoeddus
  • Tua 1,600 o gynrychiolwyr yn mynychu rhaglenni’r bore a’r prynhawn
  • Sesiynau mentora a rhwydweithio cyflym ar gael ar y diwrnod


Gweler y map isod i weld lleoliad Stadiwm Dinas Caerdydd.